A wyddech chi fod Canolfan Gelfyddydau’r Memo yn elusen gofrestredig?
Daw 64% o’n hincwm o weithgareddau elusennol a haelioni ein cefnogwyr, a darperir y gweddill gan ein harianwyr anhygoel y mae eu cyfraniadau hael yn caniatáu i ni dyfu ein rhaglen, i ofalu am y lleoliad ardderchog hwn ac i weithio gyda holl aelodau’r gymuned.
I sicrhau ein bod yn diwallu anghenion ein cymuned, rydym yn gweithio’n galed i wneud eich ymweliad mor bleserus ag y gallwn ni. Pa un a ydych chi’n dod i weld ffilm, sioe fyw, yn cefnogi digwyddiad cymunedol lleol neu’n llogi’r ganolfan ar gyfer eich achlysur arbennig, rydym ni’n gwerthfawrogi eich adborth.
Rydym ni wir eisiau clywed gennych gan fod eich sylwadau a’ch adborth yn helpu i gefnogi ein cenhadaeth, i wella a datblygu ein gwasanaethau ac i’n cynorthwyo i wneud y Memo yn brofiad ystyrlon i bawb.
Os ydych chi wedi bod i ddigwyddiad yn y Memo yn ddiweddar, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi roi ychydig funudau o’ch amser i gwblhau arolwg ôl-ddigwyddiad ar-lein – byddem yn falch iawn o glywed eich barn..
Rydym yn ymfalchïo yn y profiad i ymwelwyr yma yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Memo. Os oes gennych chi gŵyn, rhowch wybod i ni ar unwaith a byddwn yn gwneud ein gorau glas i unioni pethau mor gyflym â phosibl a chyda cyn lleied o ffwdan â phosibl.
Cysylltwch â ni drwy e-bost neu drwy’r post
E-bost: enquiries@memoartscentre.co.uk
Post: Yr Adran Weinyddol, Canolfan Gelfyddydau’r Memo, Gladstone Road, y Barri, CF62 8NA