Please select your language:
Cymraeg

Eich Adborth

A wyddech chi fod Canolfan Gelfyddydau’r Memo yn elusen gofrestredig?

Daw 64% o’n hincwm o weithgareddau elusennol a haelioni ein cefnogwyr, a darperir y gweddill gan ein harianwyr anhygoel y mae eu cyfraniadau hael yn caniatáu i ni dyfu ein rhaglen, i ofalu am y lleoliad ardderchog hwn ac i weithio gyda holl aelodau’r gymuned.

I sicrhau ein bod yn diwallu anghenion ein cymuned, rydym yn gweithio’n galed i wneud eich ymweliad mor bleserus ag y gallwn ni. Pa un a ydych chi’n dod i weld ffilm, sioe fyw, yn cefnogi digwyddiad cymunedol lleol neu’n llogi’r ganolfan ar gyfer eich achlysur arbennig, rydym ni’n gwerthfawrogi eich adborth.

Rydym ni wir eisiau clywed gennych gan fod eich sylwadau a’ch adborth yn helpu i gefnogi ein cenhadaeth, i wella a datblygu ein gwasanaethau ac i’n cynorthwyo i wneud y Memo yn brofiad ystyrlon i bawb. 


Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni!

Os oes gennych chi unrhyw sylwadau yr hoffech eu rhannu â ni, cwblhewch ein ffurflen adborth ar-lein or email us at boxoffice@memoartscentre.co.uk

 

 

Os ydych chi wedi bod i ddigwyddiad yn y Memo yn ddiweddar, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi roi ychydig funudau o’ch amser i gwblhau arolwg ôl-ddigwyddiad ar-lein – byddem yn falch iawn o glywed eich barn..


Rydym yn ymfalchïo yn y profiad i ymwelwyr yma yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Memo. Os oes gennych chi gŵyn, rhowch wybod i ni ar unwaith a byddwn yn gwneud ein gorau glas i unioni pethau mor gyflym â phosibl a chyda cyn lleied o ffwdan â phosibl.

Polisi Adborth a Chwynion

  • Os ydych chi’n dymuno gwneud cwyn, y peth gorau i’w wneud yw siarad ag aelod o staff yn gyntaf, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Dyma fydd y ffordd gyflymaf i ni ymateb ac ymchwilio i’r broblem. Ein nod bob amser fydd datrys problemau yn gyflym, yn syml ac yn deg gyda chyn lleied o ffurfioldeb â phosibl.
  • Siaradwch ag aelod o staff ar ddyletswydd yn y lle cyntaf. Os na fydd yn gallu datrys y broblem ar unwaith, bydd yn eich cyfeirio at yr adran Weinyddol.
  • Os bydd angen rhoi mwy o sylw i’r broblem, efallai y bydd y Rheolwr ar Ddyletswydd yn gofyn i chi wneud eich cwyn yn ysgrifenedig (mewn llythyr neu drwy e-bost), wedi’i gyfeirio at y Rheolwr Cyffredinol a fydd yn ymateb neu’n anfon eich cwyn ymlaen i’r Adran berthnasol fel y bo’n briodol.
  • Gofynnwn i chi wneud eich cwyn o fewn 14 diwrnod i’r digwyddiad yr ydych yn dymuno gwneud cwyn amdano. Mae’n anodd i ni ymchwilio i broblem yn foddhaol pan fydd cryn amser wedi mynd heibio ar ôl y digwyddiad cyn i chi dynnu ein sylw at y broblem.
  • Byddwn bob amser yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich cwyn ac yn rhoi amserlen i chi os na allwn ymateb ar unwaith. Efallai y bydd adegau pan fyddwn ni angen gwybodaeth ychwanegol neu ymatebion gennych chi i gwblhau ein hymchwiliad.

Cysylltwch â ni drwy e-bost neu drwy’r post

E-bost: enquiries@memoartscentre.co.uk

Post: Yr Adran Weinyddol, Canolfan Gelfyddydau’r Memo, Gladstone Road, y Barri, CF62 8NA

cyWelsh
Left Menu Icon