Please select your language:
Cymraeg

Ein Hanes

Yn y 1920au, roedd pobl y Barri yn dymuno darparu cofeb briodol i drigolion y Barri a roddodd eu bywydau yn y frwydr dros ryddid yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Penderfynwyd y dylai fod ar ffurf Senotaff a neuadd. £26,000 oedd y gost – sy’n agos at £4 miliwn yn arian heddiw.

Gyda chymorth arbennig o hael y teulu Davies (disgynyddion David Davies a sefydlodd y dociau), a chefnogaeth frwd pobl y Barri – a phob un ohonynt yn rhoi ceiniog – llwyddasant, ac agorwyd y neuadd a’r Senotaff newydd sbon ym 1932. Cwblhawyd ac agorwyd y Theatr a’r Neuadd ar 11 Tachwedd 1933.

Adfer

Yn 2007, roedd 75 mlynedd wedi mynd heibio ers agor y Neuadd Goffa a chysegriad y Neuadd Gofio a’r Senotaff.

Nid oedd y blynyddoedd wedi bod yn garedig, ac roedd angen adfer a gwella’r Neuadd Gofio a’r Senotaff. Comisiynwyd adroddiad gan yr ymddiriedolwyr i arolygu’r cofebion a gwnaed argymhellion i’w hadfer a sicrhau eu bod yn bodloni safonau deddfwriaethol.

Amcangyfrifwyd mai £60,000 fyddai cost y gwaith a lansiwyd apêl ‘Y Barri yn Cofio’ i godi’r swm hwn yn barod i gwblhau’r gwaith ar gyfer y pen-blwydd yn 75 oed ar 11 Tachwedd 2007.

Codwyd £92,000, ac roedd cefnogaeth y gymuned, awdurdodau lleol a haelioni llawer o sefydliadau ac unigolion yn eithriadol. Sicrhaodd y gwaith codi arian hefyd bod arian ar gyfer ailgynhyrchu’r Rhestr Gwroniaid wedi’i diweddaru Cymdeithas y Llynges Fasnachol, sy’n cynnwys enwau mwy na 600 o forwyr masnachol o’r Barri a fu farw mewn rhyfeloedd, ac a arddangosir yn y Neuadd Gofio.

Mae’r Senotaff a’r Neuadd Gofio yn dal i fod yn gofebion teilwng i bob un o’r 1,818 o drigolion y Barri a enwir a roddodd eu bywydau dros ryddid, mewn dau Ryfel Byd ac mewn rhyfeloedd dilynol

 

 

cyWelsh
Left Menu Icon