Dydd Mercher 01 Mawrth 2017
7:00yp

Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cadw gyda chefnogaeth gan Chapter

Darllediad Byw: Dydd Mawrth, 14 Chwefror, 2017

Ail-ddangosiad (gydag is-deitlau Saesneg)

“Hyll yw’r teg, a theg yw’r hyll;

Hofran yn yr aflan niwl a’r gwyll.”

Mae brenin yr Alban wedi gwobrwyo ei filwr mwyaf disglair yn hael. Ond mae bodau goruwchnaturiol wedi darogan i Macbeth anrhydedd lawer mwy. Pan fo ei wraig ddidostur yn gwirioni ar addewid o bŵer di-ben-draw, gan annog uchelgais cythreulig ei gŵr, Mae on ben Arno, ac mae cynllun dieflig y ddau yn troi’n gyflafan waedlyd.

Cynhyrchiad safle-benodol Theatr Genedlaethol Cymru – yn fyw o Gastell Caerffili – o glasur Shakespeare wedi ei gyfieithu o’r newydd i’r Gymraeg gan y diweddar Gwyn Thomas.

Cast yn cynnwys Richard Lynch (Pobol y Cwm, Y Gwyll) Macbeth i fyny, mae Ffion Dafis (Byw Celwydd, Rownd a Rownd) fel ei wraig ddi-drugaredd. Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd.

“... y mae pethau Yn ddrwg ddechreuwyd, trwy ddrwg yn ymgryfhau"”

_______________________________________________

 

Theatr Gen Byw: MACBETH

Theatr Genedlaethol Cymru

mewn partneriaeth â Cadw

a gyda chefnogaeth gan Chapter

Darllediad Byw, Dydd Mawrth 14 Chwefror, 2017

Ail-ddangosiad (gydag is-deitlau Saesneg), Dydd Mercher 1 Mawrth

“Hyll yw’r teg, a theg yw’r hyll;;

Hofran yn yr aflan niwl a’r gwyll.”

Mae brenin yr Alban wedi gwobrwyo ei filwr mwyaf disglair yn hael. Ond mae bodau goruwchnaturiol wedi darogan i Macbeth anrhydedd lawer mwy. . Pan fo ei wraig ddidostur yn gwirioni ar addewid o bŵer di-ben-draw, gan annog uchelgais cythreulig ei gŵr, mae ar ben arno, ac mae cynllun dieflig y ddau yn troi’n gyflafan waedlyd.

Cynhyrchiad safle-benodol Theatr Genedlaethol Cymru – yn fyw o Gastell Caerffili – o glasur Shakespeare wedi ei gyfieithu o’r newydd i’r Gymraeg gan y diweddar Gwyn Thomas.

Cast yn cynnwys Richard Lynch (Pobol y Cwm, Y Gwyll) fel Macbeth, a Ffion Dafis (Byw Celwydd, Rownd a Rownd) fel ei wraig ddi-drugaredd. Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd.

“... y mae pethau Yn ddrwg ddechreuwyd, trwy ddrwg yn ymgryfhau"

theatr.cymru

@TheatrGenCymru

#MacbethThGC

TOCYNNAU: £ 11 llawn / £ 8 consesiynau

Beth sy'n mlaen